Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2016
Amser: 09.45 -
10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3642
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd dros dro) Adam Price AC Nick Ramsay AC Neil Hamilton AC (yn lle Mark Reckless AC) Mike Hedges AC Jeremy Miles AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Gerallt Roberts (Dirprwy Glerc) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Cyllid y Pumed Cynulliad.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AC ac Eluned Morgan AC.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Neil Hamilton AC oedd yn bresennol fel dirprwy i Mark Reckless AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Mark Drakeford AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Gawain Evans – Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru; a Matt Denham-Jones – Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolyddion Cyllid, Llywodraeth Cymru, ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.1 Nododd y Pwyllgor ei gyfrifoldebau a dechreuodd ystyried ei fusnes cynnar, i’w ddychwelyd ato yn ei gyfarfod nesaf.